Rhedeg busnes bwyd
Printable version
1. Eich cyfrifoldebau
Mae ‘busnes bwyd’ yn golygu unrhyw fusnes sy’n:
- gwerthu bwyd
- coginio bwyd
- storio neu’n trin bwyd
- paratoi bwyd
- dosbarthu bwyd
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Eich cyfrifoldebau fel busnes bwyd
Os yw eich busnes yn ymdrin â bwyd, rhaid i chi:
- sicrhau bod bwyd yn ddiogel
- cofrestru gyda’ch awdurdod lleol
- hyfforddi eich holl staff a sicrhau eu bod yn dilyn arferion hylendid personol da
- bod â system ar gyfer rheoli diogelwch bwyd
- °ù³ó±ð´Ç±ô¾±â€™r risg o alergeddau bwyd
- rheoli risg pob perygl cemegol a ffisegol i fwyd
- °ù³ó±ð´Ç±ô¾±â€™r risg o beryglon microbiolegol mewn bwyd parod i’w fwyta
- sicrhau nad ydych chi’n ychwanegu, tynnu na thrin bwyd mewn ffordd sy’n ei wneud yn niweidiol
- labelu, hysbysebu a marchnata bwyd yn gywir – peidiwch â chamarwain pobl am yr ansawdd, y cynhwysion n²¹â€™r prosesau sy’n cael eu defnyddio
- cadw cofnodion o’ch cyflenwyr a phob busnes rydych chi’n ei gyflenwi – mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel cofnodion olrheiniadwyedd
- galw neu dynnu bwyd anniogel yn ôl, rhoi gwybod am y digwyddiad a dweud wrth bobl pam mae’r bwyd yn cael ei alw neu’i dynnu’n ôl
- defnyddio ychwanegion cymeradwy yn unig a pheidio â mynd y tu hwnt i’r lefel uchaf a ganiateir
- gwirio a oes angen i chi
Cofrestru gyda’ch awdurdod lleol
Rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol lle bynnag rydych chi’n masnachu, gan gynnwys eich cartref, fan neu stondin.
Efallai y bydd angen i chi gofrestru os ydych chi’n elusen neu grŵp cymunedol sy’n dosbarthu bwyd.
Arolygiadau a sgoriau diogelwch bwyd
Bydd eich busnes bwyd yn cael ei arolygu yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch bwyd.
Byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd yn seiliedig ar yr arolygiad.
Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n orfodol rhoi’r sticer sy’n dangos eich sgôr mewn man hollol amlwg i gwsmeriaid. Mae hyn yn wirfoddol yn Lloegr.
2. Hyfforddiant, salwch a hylendid staff
Hyfforddiant staff
Rhaid i chi allu dangos bod gan eich staff y sgiliau cywir a’u bod wedi ymgymryd â’r hyfforddiant diweddaraf ar gyfer eu rôl.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cadwch gofnod o unrhyw hyfforddiant y mae staff wedi’i gwblhau fel y gallwch ddangos hyn yn ystod arolygiad.
Mae modd dysgu sgiliau drwy’r canlynol:
- cyrsiau a ddarperir neu a argymhellir gan
- hyfforddi wrth weithio
- hunan-astudio
- profiad blaenorol perthnasol
Does dim rhaid i unigolion sy’n trin bwyd feddu ar dystysgrif hylendid bwyd.
Os ydych chi eisiau un, gofynnwch i’ch am wybodaeth.
Rhaid hyfforddi staff i reoli alergeddau.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig hyfforddiant am ddim ar i helpu staff i ddeall beth sy’n achosi digwyddiadau diogelwch bwyd a dysgu sut i’w hatal.
Hylendid personol
Rhaid i chi sicrhau bod staff yn gwisgo dillad diogelu addas a glân. Wrth baratoi neu drin bwyd, dylai staff wneud y canlynol:
- cadw eu gwallt yn ôl a gwisgo gorchudd pen addas, fel het neu rwyd gwallt
- peidio â gwisgo oriawr na gemwaith (ac eithrio modrwy briodas blaen)
- peidio â chyffwrdd â’u hwyneb na’u gwallt
- peidio ag ysmygu, poeri, tisian, bwyta na chnoi gwm
Rhowch gynllun ar waith i sicrhau hylendid personol gan ddefnyddio’r canllawiau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ (SFBB), neu’r safonau ‘Arlwyo diogel’ os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.
Golchi dwylo
Mae golchi’ch dwylo’n iawn yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu. Rhaid i unrhyw un sy’n gweithio gyda bwyd olchi ei ddwylo:
- cyn paratoi bwyd
- ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd
- ar ôl trin gwastraff bwyd neu wagio bin
- ar ôl glanhau
- ar ôl chwythu ei drwyn neu gyffwrdd â’i wyneb neu ei wallt
- ar ôl cyffwrdd â ffonau, switshys golau, dolenni drws a thiliau
- ar ôl bod i’r toiled
Salwch staff
Rhaid i staff ddweud wrth eu rheolwr os nad ydyn nhw’n teimlo’n iawn.
Rhaid iddyn nhw beidio â thrin bwyd na mynd i mewn i’r ardal trin bwyd os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r canlynol:
- dolur rhydd
- chwydu
- clwyfau neu friwiau heintiedig
- poen yn y stumog, teimlo’n gyfoglyd, twymyn neu’r clefyd melyn
- croen, trwyn neu wddf heintiedig
- unrhyw glefyd arall sy’n debygol o gael ei drosglwyddo drwy fwyd
Rhaid i staff hefyd ddweud wrth eu rheolwr os yw unrhyw un yn eu cartref yn dioddef o ddolur rhydd neu’n chwydu. Rhaid iddyn nhw osgoi trin bwyd os oes unrhyw siawns eu bod nhw’n cario salwch.
Dysgwch am eich .
Pan fydd eich staff yn sâl
Os byddwch chi’n darganfod bod pobl wedi gweithio pan oedden nhw’n sâl, glanhewch yn effeithiol i atal y salwch rhag lledaenu. Rhowch sylw manwl i’r ardaloedd y mae’r aelod o staff wedi dod i gysylltiad â nhw.
Bydd gan y rhan fwyaf o staff hawl i dâl salwch statudol. Os byddwch chi’n cosbi staff am fod yn sâl, efallai y byddan nhw’n gweithio pan fyddan nhw’n sâl a gallai hyn arwain at broblemau diogelwch bwyd.
Dychwelyd i’r gwaith
Ar ôl cyfnod o salwch, gallech ddefnyddio holiadur ffitrwydd i weithio i wirio a yw’n ddiogel i staff ddychwelyd i’r gwaith.
Rhaid i staff sydd â dolur rhydd neu sy’n chwydu beidio â dychwelyd i’r gwaith tan iddyn nhw fod yn rhydd rhag unrhyw symptomau am 48 awr.
Darllenwch ganllawiau Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ar reoli heintiau gastroberfeddol.
3. Alergeddau
Rhaid i chi reoli alergeddau bwyd wrth baratoi a gwerthu bwyd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth gywir, atal croeshalogi a hyfforddi staff yn briodol.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dym²¹â€™r alergenau y mae’n rhaid i chi eu rheoli:
- bysedd y blaidd (‘lupin’)
- cnau
- cramenogion (‘crustaceans’) – gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid
- ffa soia
- grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten – gan gynnwys gwenith, rhyg, haidd a cheirch
- hadau sesame
- llaeth
- molysgiaid – gan gynnwys môr lewys (‘squid’), cregyn gleision, cocos, cregyn moch (‘whelks’) a malwod
- mwstard
- pysgnau
- pysgod
- seleri
- sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neu’r litr
- wyau
Gwybodaeth am alergenau
Rhaid i chi allu darparu gwybodaeth gywir am alergenau. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.
Dylech gadw gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau a rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn:
- diweddaru gwybodaeth am alergenau pryd bynnag y bydd ryseitiau neu gynhwysion yn newid
- sicrhau bod yr holl staff yn gwybod am newidiadau i ryseitiau
- gwneud yn siŵr bod staff y gegin yn gwybod pan fydd rhywun wedi archebu pryd heb alergen
- gweini bwyd i’r cwsmer cywir bob amser
Dylech fod â phroses ar waith ar gyfer rhoi gwybodaeth gywir am alergenau i gwsmeriaid, gan gynnwys sut y dylai staff:
- ymateb i gwestiynau am alergenau
- gwirio bod gwybodaeth am alergenau yn gywir cyn ateb
- gwirio os ydyn nhw’n ansicr
Gwnewch yn siŵr bod y staff yn gwybod beth i’w wneud pe bai cwsmer yn cael .
Atal croeshalogi
Rhaid i chi atal croeshalogi alergenau.
Yn ogystal â gweithdrefnau hylendid bwyd cyffredinol i atal croeshalogi, dylech hefyd fod â gweithdrefnau ar waith i allu:
- gwirio danfoniadau i sicrhau bod popeth yn cyfateb i’r hyn a gafodd ei archebu
- storio a labelu’r holl gynhwysion i atal croeshalogi
- delio â gollyngiadau o un cynhwysyn i gynhwysyn arall
Gallwch ddefnyddio’r rhestr wirio alergenau ar gyfer busnesau bwyd.
Hyfforddiant staff
Dylech sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant priodol i reoli alergenau yn eu rôl.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn darparu .
Canllawiau ychwanegol
Darllenwch ganllawiau ychwanegol yr ASB i fusnesau bwyd ar alergenau.
Mae canllawiau hefyd ar gael ar:
4. Cyflenwyr ac olrheiniadwyedd
Defnyddiwch gyflenwr ag enw da i wneud yn siŵr bod y cynhyrchion rydych chi’n eu prynu wedi’u storio, eu prosesu, eu trin a’u cludo’n ddiogel.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pan fydd bwyd yn cael ei ddanfon, gwiriwch y canlynol:
- mae bwyd sydd wedi’i oeri a’i rewi yn ddigon oer
- dydy’r deunydd pecynnu ddim wedi’i ddifrodi
- mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn rydych chi wedi’i archebu
Os ydych chi’n credu nad yw bwyd wedi cael ei drin yn ddiogel neu ei fod o ansawdd gwael, peidiwch â’i ddefnyddio. Cysylltwch â’ch cyflenwr ar unwaith.
Rhaid i chi gadw cofnodion olrheiniadwyedd i helpu i olrhain bwyd drwy’r gadwyn gyflenwi. Mae’r rhain yn helpu i dynnu neu alw bwyd anniogel yn ôl yn gyflym. Rhaid i’ch cofnodion gynnwys:
- enw a chyfeiriad pob cyflenwr
- enw a chyfeiriad pob busnes rydych chi’n ei gyflenwi
- math a maint y cynhyrchion
- dyddiadau pob trafodiad a danfoniad
Cadwch yr holl gofnodion yn gyfredol a sicrhewch eu bod ar gael i’w harolgyu bob amser.
5. Arolygiadau bwyd
Gallwch gael eich arolygu gan eich cyngor lleol ar unrhyw adeg yn ystod y broses gynhyrchu a dosbarthu bwyd. Rhaid i bob arolygydd ddilyn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Fel arfer, ni fyddwch yn cael gwybod y bydd arolygiad yn digwydd.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r risg y mae eich busnes yn ei pheri i iechyd y cyhoedd yn pennu pa mor aml y cewch eich arolygu. Efallai na fyddwch yn cael eich arolygu mor aml os ydych chi’n aelod o gynllun sicrwydd cydnabyddedig. Gallwch chi chwilio am gynllun sicrwydd cofrestredig ar-lein.
Os ydych chi’n fanwerthwr bwyd neu’n arlwywr, byddwch chi’n cael eich arolygu’n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch bwyd. Darllenwch y canllawiau i arlwywyr ²¹â€™r canllawiau i fanwerthwyr bwyd.
Dewch o hyd i swyddogion gorfodi yn eich cyngor lleol.
Beth fydd yn cael ei wirio
Bydd yr arolygydd yn gwirio:
- safonau hylendid y busnes wrth drin bwyd – sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
- cyflwr ffisegol eich busnes – gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, mesurau rheoli plâu a chyfleusterau eraill
- y prosesau, yr hyfforddiant ²¹â€™r systemau rydych chi’n eu defnyddio i sicrhau bod hylendid da yn cael ei gynnal
Mae modd cymryd samplau bwyd yn ogystal â thynnu lluniau.
Ar ôl yr arolygiad
Byddwch chi’n cael gwybod yn ysgrifenedig beth yw eich sgôr hylendid bwyd a pham y cawsoch chi’r sgôr hon. Bydd hyn naill ai ar adeg yr arolygiad neu o fewn 14 diwrnod.
Os cewch chi sgôr isel, bydd y llythyr yn cadarnhau unrhyw welliannau y mae angen i chi eu gwneud ac erbyn pryd.
Yn achos problemau diogelwch bwyd difrifol, efallai y byddwch yn cael ‘hysbysiad’. Bydd rhywun yn ailymweld â’ch busnes i wneud yn siŵr eich bod chi wedi dilyn y gwelliannau yn yr hysbysiad. Mae hysbysiadau enghreifftiol yn cynnwys:
- Hysbysiad Gwella Hylendid
- Hysbysiadau Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid – mae’r rhain yn eich gwahardd rhag defnyddio offer penodol neu ddilyn prosesau penodol
Apelio
Os ydych chi o’r farn bod eich sgôr yn anghywir, gallwch chi gyhoeddi ymateb, cyflwyno apêl neu ofyn am ‘arolygiad ail-sgorio’.