Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych yn byw dramor ac rydych yn un o’r canlynol:
- hunangyflogedig yn y DU
- hunangyflogedig dramor
Os ydych wedi gweithio dramor yn y gorffennol, gallwch wirio a allwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.
Sut i wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol
Mae ffordd wahanol o dalu yn dibynnu a oes gennych dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg) ai peidio.Ìý
Nid oes angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych yn gweithio ynddi os oes gennych dystysgrif yswiriant.Ìý
Gwiriwch a allwch wneud cais am dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes gennych dystysgrif yswiriant
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’ch elw o hunangyflogaeth yn is na £7,105. Bydd hyn yn diogelu’ch hawl i rai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.Ìý
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon cais am daliad atoch yn awtomatig rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref.
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad yw CThEF yn cysylltu â chi erbyn diwedd mis Tachwedd.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu:
- gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
- anfon siec drwy’r post os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Os nad oes gennych dystysgrif yswiriant
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol i ddiogelu’ch hawl i rai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.
Ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfer amser a dreuliwyd dramor o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Fodd bynnag, gallwch dalu cyfraniadau ar gyfer amser a dreuliwyd dramor cyn 6 Ebrill 2026.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych chi ynddi.
Pan na fydd angen i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol
Fel arfer, nid oes angen i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych dystysgrif yswiriant
- mae’ch elw yn £7,105 neu’n fwyÂ
Y rheswm am hyn yw y bydd eich cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu, sy’n golygu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol wedi’i ddiogelu’n awtomatig.
Er mwyn i’ch cyfraniadau gael eu trin fel pe baent wedi’u talu, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon at CThEF.Ìý
Anfon eich cyfrifon
Bydd angen i chi roi naill ai:
-
cyfrifon ffurfiol o elw a cholledÂ
-
cyfrifon 3 llinell sy’n dangos enillion neu enillion busnes gros (gan gynnwys unrhyw gomisiwn neu gildyrnau), cyfanswm treuliau a ffigurau elw net neu golled
Anfonwch eich cyfrifon ynghyd â’ch enw llawn, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol i:
Gwasanaethau HunangyflogaethÂ
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich cyfrifon yw 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael eu trin fel rhai a dalwyd. Er enghraifft, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon at CThEF erbyn 31 Ionawr 2027 ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2026.Ìý
Os na fyddwch yn anfon eich cyfrifon erbyn y dyddiad cau mae’n bosibl:
-
y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd uwch o Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn dreth honno
-
ni fydd eich cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu am y flwyddyn dreth honno
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gadarnhau a yw’ch cyfraniadau wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu.
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad yw CThEF yn cysylltu â chi erbyn diwedd mis Tachwedd.