Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Printable version
1. Trosolwg
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i’ch helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau, fel Pensiwn y Wladwriaeth, os ydych yn hunangyflogedig.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu’r cyfraniadau hyn fel rhan o’u bil treth Hunanasesiad neu mae eu cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu.
Pryd y gallech ddewis talu
Mae’n bosibl y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:
- nid ydych yn talu drwy Hunanasesiad
- rydych am lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol – gallwch wirio’ch bod yn gymwys ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn hunangyflogedig
- rydych yn gweithio neu’n byw dramor, neu wedi gwneud yn y gorffennol
Os ydych fel arfer yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 fel rhan o’ch bil Hunanasesiad ond wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer talu, bydd angen i chi gysylltu â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i gael cyfeirnod a gwneud eich taliad.
Gallwch hefyd ddewis talu oherwydd nad ydych yn gymwys i gael eich trin fel rhywun sydd wedi talu cyfraniadau Dosbarth 2. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n un o’r canlynol:
- yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad
- yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl
- yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes, a heb gael ffi na chomisiwn
- yn landlord ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor
Mae yna ffordd wahanol o wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych yn byw neu’n gweithio dramor. Gwiriwch a ydych yn gymwys a sut i dalu.
Sut i wneud cyfraniadau gwirfoddol Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych yn byw yn y DU
Bydd angen i chi os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad.
Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg ac fel arfer gallwch dalu cyfraniadau am y 6 blynedd dreth ddiwethaf. Gwiriwch y dyddiadau cau ar gyfer talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol.
Ar ôl i chi gofrestru
Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu.
Bydd y cais am daliad yn cynnwys cyfeirnod 18 digid o hyd y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad. 
Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol os na fyddwch yn cael cais am daliad erbyn diwedd mis Tachwedd.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch bob blwyddyn tan y byddwch wedi gwneud y canlynol:
-
rhoi gwybod iddo nad ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol mwyach
-
rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
-
cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Ffyrdd o dalu os ydych yn byw yn y DU
Bydd eich cais am daliad yn rhoi dyddiad cau i chi dalu CThEF.
Gwiriwch pa mor hir y mae angen i chi ganiatáu i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Mae yna ffordd wahanol i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych chi’n gweithio neu’n byw dramor ac rydych chi’n gymwys.
Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:
-
drwy fancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS)
Sicrhewch eich bod yn caniatáu 3 diwrnod i’ch taliadau gyrraedd CThEF os ydych yn defnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs).
Sicrhewch eich bod yn caniatáu 21 diwrnod gwaith i drefnu Debyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un o’r blaen.
Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny. Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych chi’n talu gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn Taliadau Cyflymach.
Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer talu
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau y mae CThEF wedi’i roi i chi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hyn hefyd effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i gael gwybod faint sydd angen i chi ei dalu.
Ar ôl i chi dalu
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
2. Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych yn byw dramor ac rydych yn un o’r canlynol:
- hunangyflogedig yn y DU
- hunangyflogedig dramor
Os ydych wedi gweithio dramor yn y gorffennol, gallwch wirio a allwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.
O 6 Ebrill 2026, bydd y rheolau ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am amser a dreuliwyd dramor yn newid: bydd angen i chi fod wedi byw yn y DU am 10 mlynedd yn olynol (neu wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am 10 mlynedd). Os ydych yn talu cyfraniadau ar hyn o bryd, neu os ydych yn bwriadu dechrau talu cyfraniadau, gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn 6 Ebrill 2026 (yn agor tudalen Saesneg).
Sut i wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol
Mae ffordd wahanol o dalu yn dibynnu a oes gennych dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg) ai peidio.Ìý
Nid oes angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych yn gweithio ynddi os oes gennych dystysgrif yswiriant.Ìý
Gwiriwch a allwch wneud cais am dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes gennych dystysgrif yswiriant
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’ch elw o hunangyflogaeth yn is na £6,725. Bydd hyn yn diogelu’ch hawl i rai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.Ìý
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon cais am daliad atoch yn awtomatig rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref.
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad yw CThEF yn cysylltu â chi erbyn diwedd mis Tachwedd.
Mae’n rhaid i chi dalu naill ai drwy’r un o’r canlynol:
-
siec drwy’r post os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU.
Os nad oes gennych dystysgrif yswiriant
Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol i ddiogelu’ch hawl i rai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych chi ynddi.
Pan na fydd angen i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol
Fel arfer, nid oes angen i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:Ìý
-
mae gennych dystysgrif yswiriant
-
mae’ch elw yn £6,725 neu’n fwyÌý
Y rheswm am hyn yw y bydd eich cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu, sy’n golygu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol wedi’i ddiogelu’n awtomatig.
Er mwyn i’ch cyfraniadau gael eu trin fel pe baent wedi’u talu, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon at CThEF.Ìý
Anfon eich cyfrifon
Bydd angen i chi roi naill ai:
-
cyfrifon ffurfiol o elw a cholledÌý
-
cyfrifon 3 llinell sy’n dangos enillion neu enillion busnes gros (gan gynnwys unrhyw gomisiwn neu awgrymiadau), cyfanswm treuliau a ffigurau elw net neu golled
Anfonwch eich cyfrifon ynghyd â’ch enw llawn, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol i:
Gwasanaethau HunangyflogaethÌý
Gogledd Ddwyrain Lloegr / North East England
CThEFÌý
BX9 1ST
Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich cyfrifon yw 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael eu trin fel rhai a dalwyd. Er enghraifft, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon at CThEF erbyn 31 Ionawr 2026 ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2025.Ìý
Os na fyddwch yn anfon eich cyfrifon erbyn y dyddiad cau gall un o’r canlynol fod yn wir:
-
gallech orfod talu cyfradd uwch o Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn dreth honno
-
ni allech gael eich cyfraniadau eu trin fel pe baent wedi’u talu am y flwyddyn dreth honno
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gadarnhau a yw’ch cyfraniadau wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu.
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad yw CThEF yn cysylltu â chi erbyn diwedd mis Tachwedd.
3. Talu ar-lein
Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu symudol os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU.
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor, bydd angen i chi wneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn yn lle hynny.
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich manylion bancio ar-lein
-
y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad, a anfonwyd gan CThEF
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, ²¹â€™c³ó bod eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Cadarnhad o’r taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
4. Debyd Uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud taliadau rheolaidd o gyfrif banc yn y DU.
Ni allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol:
- o gyfrif banc tramor
- os oes gennych dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg)
- os ydych yn gwneud taliad sy’n fwy nag £20 miliwn
Sicrhewch eich bod yn caniatáu 21 diwrnod i drefnu Debyd Uniongyrchol newydd.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi swm y taliadau a fydd yn cael eu cymryd, a phryd y bydd hynny’n digwydd.
Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NI-DD’. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os bydd eich taliadau’n newid am unrhyw reswm.
Os oes gennych gwestiwn ynghylch eich taliadau Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol.
5. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- gan ffonio’ch banc
Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Talu o gyfrif banc yn y DU
Gallwch dalu CThEF drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs, gan ddefnyddio’r manylion canlynol:
-
cod didoli - 08 32 20
-
rhif y cyfrif - 12001004
-
enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts
Cyfeirnod i’w ddefnyddio
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU, mae’r cyfeirnod y mae angen i chi ei ddefnyddio yn dibynnu ar p’un a ydych:
- yn byw ac wedi gweithio yn y DU
- yn byw dramor
- yn byw yn y DU ond yn talu am gyfnod pan oeddech yn gweithio dramor
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.
Os ydych yn byw ac yn gweithio yn y DU, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF wrth i chi wneud taliad. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y digidau.
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid ac rydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol.
Os ydych naill ai’n byw dramor neu’n byw yn y DU ond yn talu am gyfnod pan oeddech yn gweithio dramor, mae angen i chi ddefnyddio cyfeirnod gwahanol.
Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna lythyren gyntaf eich enw cyntaf.
Enghreifftiau
Os mai Anne Jones yw eich enw a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA
Os mai John Douglas-Hamilton yw eich enw a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICDOUGLAS-HAMILTONJ
Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl neu’r 5 llythyren gyntaf.
Talu o gyfrif banc tramor
Dim ond os ydych chi’n defnyddio cyfrif tramor y mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r manylion canlynol:
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB49 BARC 2020 4830 9447 93
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC NIC receipts
Dylech wneud pob taliad tramor mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Mae dull gwahanol o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych chi’n byw neu’n gweithio dramor yn barhaol.
Cyfeirnod i’w ddefnyddio
Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna lythyren gyntaf eich enw cyntaf.
Enghreifftiau
Os mai Anne Jones yw eich enw a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA
Os mai John Douglas-Hamilton yw eich enw a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICDOUGLAS-HAMILTONJ
Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl neu’r 5 llythyren gyntaf.
Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr 13 cymeriad.
Cyfeiriad bancio
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Cadarnhad o’r taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.Ìý
Bydd angen eich slip cyflog Cyllid a Thollau EF (CThEF). Fe welwch hyn ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.Ìý
Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEF.
Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.Ìý
Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip cyflog neu ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad oes gennych gais am daliad neu gyfeirnod, gallwchÌýgael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.
Cadarnhad o’r taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
7. Talu â siec drwy’r post
Gallwch dalu o gyfrif banc yn y DU drwy anfon siec at:
HM Revenue and Customs
National Insurance Contributions and Employer Office
BX5 5BD
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau, sef 5 Ebrill.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF – ysgrifennwch hwn ar gefn y siec
- y slip cyflog a anfonwyd atoch ar waelod eich cais am daliad gan CThEF
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.
Peidiwch â phlygu’ch slip cyflog na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol.
Os nad oes gennych slip cyflog CThEF
Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad
- eich rhif Yswiriant Gwladol – dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
- faint rydych yn ei dalu
Cadarnhad o’r taliad
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Gallwch hefyd wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth bersonol. Caniatewch hyd at 8 wythnos i’ch taliad ymddangos.