Help a chymorth
Dewch o hyd i help, gan gynnwys help gan CThEF, os oes ei angen arnoch.
Gallwch gael gwahanol fathau o gymorth wrth ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Mae hyn yn dibynnu ar ba help sydd ei angen arnoch chi a pha flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.Ìý
Mae ein harweiniad yn esbonio’r hyn sydd angen i chi ei wneud, o’r amser fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth gyntaf wrth ddefnyddio’r gwasanaeth.Ìý
Mae’n cynnwys y canlynol:Ìý
-
gwybodaeth ddefnyddiol, fel y pethau newydd sydd angen i chi ei wneud ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a throsolwg o’ch blwyddyn gyntafÌý
-
sut i gael eich meddalwedd yn barodÌý
-
sut i gael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a’r hyn allwch ei wneud yn eich cyfrif ar-leinÌý
-
sut i greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol
-
sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth a’r hyn sydd angen eu cynnwysÌýÌýÌý
-
yr hyn i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newidÌý
Gofyn i’ch darparwr meddalwedd am help gyda’ch meddalweddÌý
Ni all CThEF rhoi cyngor ynghylch cynhyrchion meddalwedd penodol. Bydd pob cynnyrch yn gweithio’n wahanol yn dibynnu ar sut mae’r darparwr meddalwedd wedi ei ddatblygu.Ìý
Dylai’ch darparwr meddalwedd gael arweiniad ar sut i ddefnyddio ei feddalwedd. Cysylltwch â’ch darparwr yn uniongyrchol os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch.Ìý
Nid ydych wedi cofrestru etoÌýÌý
Os nad ydych chi neu’ch cleient wedi cofrestru eto, gallwch ddysgu mwy am ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm neu gall ein canllawiau cam wrth gam eich helpu i ddeall y camau i’w cymryd yn gyntaf:Ìý
Os oes angen mwy o gymorth arnochÌý
Dim ond yn Saesneg mae’r cynorthwyydd digidol ar gael.
Gallwch ofyn i’n cynorthwyydd digidol am help gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys:
- cael gwybodaeth am bwy sydd angen cofrestru a phryd y dylent wneud hynny
- gwirio a allwch gael esemptiad
- sut i ddewis y feddalwedd gywir
- sut i gofrestru
- sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Ni all roi cyngor i chi ar faterion personol ond gall gynnig arweiniad i chi fel y gallwch ddod o hyd i atebion i’r cwestiynau sydd gennych.
Os na allwch ddod o hyd i’r cymorth sydd angen arnoch yn y canllaw hwn, gallwch gysylltu â’r canlynol:Ìý
-
y llinell neilltuedig i asiantau (yn agor tudalen Saesneg) (os ydych yn asiant)Ìý
Os gwnaethoch chi neu’ch cleient gofrestru i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm am naill ai blwyddyn dreth 2024 i 2025 neu 2025 i 2026, yna gallwch gael cymorth gan Dîm Cymorth i Gwsmeriaid neilltuol CThEF.ÌýÌý
Gallan nhw eich helpu gydag unrhyw ymholiad sydd gennych mewn perthynas â’r blynyddoedd treth hynny.Ìý
Mae rhif ffôn y tîm cymorth i gwsmeriaid yn y llythyr sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý
Gall y tîm helpu gyda’r canlynol:Ìý
-
incwm a threuliau i’w cynnwys yn y diweddariadau chwarterolÌýÌýÌý
-
cymorth â chyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 (erbyn 31 Ionawr 2027)Ìý
-
taliadau ac ad-daliadauÌý
-
dyddiadau cauÌý
-
cosbauÌý
-
rhoi gwybod am wallau ar gyfrifiadau, datganiadau, a thaliadau yn deillio o gyflwyniadauÌý
-
Hunanasesiad a Threth Enillion Cyfalaf yn cynnwys blynyddoedd cyn i chi neu’ch cleient ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth IncwmÌý
Ni all y tîm helpu gydag ymholiadau am y canlynol:Ìý
-
blwyddyn dreth 2026 i 2027 a blynyddoedd treth hwyrachÌý
-
Treth Gorfforaeth, TAW, neu Yswiriant Gwladol (ac eithrio Hunanasesiad)Ìý
-
cynnig cyngor am gynnyrch meddalwedd — cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd yn uniongyrchol er mwyn cael cymorth
Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol
Pan wnaethoch wirfoddoli i gofrestru i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, rhoddwyd yr opsiwn i chi gofrestru ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol neu’r flwyddyn dreth nesaf.
Os gwnaethoch ddewis y flwyddyn anghywir, dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am gymorth. Ìý
Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm Ìý
Bydd CThEF yn cysylltu â chi os byddwn yn sylwi ar unrhyw broblemau gyda’r flwyddyn dreth y gwnaethoch gofrestru ar ei chyfer.
Mae yna wahanol ffyrdd i ofyn am ad-daliad yn dibynnu ar sut y gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Ni allwch hawlio ad-daliad treth yn eich Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae angen i chi wneud cais am yr ad-daliad gan ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.
Os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth eich cleient fel asiant gan ddefnyddio meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae angen i chi wneud cais am ad-daliad gan ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau asiant a darparu manylion cyfrif banc eich cleient.
Os ydych chi neu’ch asiant wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i hawlio ad-daliad treth.
Os bydd rhywun sy’n defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn marw, mae ei ymrwymiadau yn dod i ben. Mae’n rhaid i’r cynrychiolydd personol roi gwybod i CThEF am y farwolaeth a gwneud yn siŵr bod unrhyw Ffurflenni Treth sydd heb gael eu cyflwyno yn cael eu hanfon.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Ffurflenni Treth ar gyfer rhywun sydd wedi marw.
Nid oes angen i’r cynrychiolydd personol ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar ran y person. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddo wneud y canlynol:
- creuÌýcofnodion digidol Ìý
- cyflwyno unrhyw ddiweddariadau chwarterol sydd heb gael eu gwneud Ìý
- cyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth gan ddefnyddio meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm